Systemau gwybodeg yn GIG Cymru: Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
Mae Nick Ramsay AC, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol, wedi rhyddhau'r datganiad a ganlyn mewn ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, 'Systemau gwybodeg yn GIG Cymru'.
Yn ôl Mr Ramsay:
"Mae'r adroddiad hwn gan yr Archwilydd Cyffredinol yn paratoi darlun cymysg ar gynnydd wrth gyflwyno'r systemau gwybodeg sydd eu hangen ar GIG modern.
"Mae'n dda bod y GIG yn gwneud llawer o'r gwaith paratoi ar gyfer cofnod claf electronig. Fodd bynnag, mae'n amlwg bod angen i'r GIG wneud yn well yn y ffordd y mae'n blaenoriaethu ac yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu systemau newydd, gan gynnwys drwy arweinyddiaeth effeithiol a threfniadau llywodraethu gwell.
"Mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus eisoes wedi dangos diddordeb mewn gwybodeg fel rhan o'i waith ar reoli meddyginiaethau ac arlwyo mewn ysbytai a bydd yn ystyried y materion ehangach yn adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn fuan."
Nodiadau i olygyddion
I gael rhagor o wybodaeth, neu i wneud cais am gyfweliadau, lluniau neu gyfleoedd ffilmio, cysylltwch â gwasanaeth cyswllt â'r cyfryngau y Cynulliad Cenedlaethol ar 0300 200 7487, neu anfonwch neges e-bost at newyddion@cynulliad.cymru.
Mae'r adroddiad llawn, 'Systemau gwybodeg yn GIG Cymru', ar gael gan Swyddfa Archwilio Cymru.
Welsh